Gallwch ddarllen testun o’r anterliwt wedi ei golygu gan A Cynfael Lake. | Darllen

Dyma’r leiaf adnabyddus o’r pum anterliwt a ddiogelwyd o waith Huw Jones o Langwm. Argraffwyd pedair anterliwt, sef Hanes y Capten Ffactor, Histori’r Geiniogwerth Synnwyr,  Protestant a Neilltuwr a Y Brenin Dafydd (cywaith Huw Jones a Siôn Cadwaladr), ond dyma’r unig un a ddiogelwyd mewn llawysgrif, a hyn yn ddiau sy’n esbonio’r anwybyddu a fu arni. Ni wyddai G G Evans amdani pan luniodd ei restr o anterliwtiau a ddiogelwyd mewn print ac mewn ffynonellau ysgrifenedig.[1] Ar ddiwedd y testun yn llawysgrif LlGC 12865A, priodolir yr anterliwt i Huw Jones, a nodir ‘Diwedd / Yr Enterliwt / Hugh Jones Llangwm / Ai gwnaeth / Rees Lloyd ai ysgrifenodd / Medi 7 1786’.[2]

Yn achlysurol byddai’r awdur yn dewis ei enwi ei hun naill ai ar ddechrau neu ar ddiwedd y chwarae. Ni ddigwydd hynny yn Hanes y Capten Ffactor, ond enwir yr awdur, Huw Jones,  yn un o olygfeydd agoriadol Protestant a Neilltuwr[3] ac yn yr olygfa olaf yn Histori’r Geiniogwerth Synnwyr[4]. Fe’i gwneir yn glir yng ngolygfa gyntaf Y Brenin Dafydd mai cywaith yw’r anterliwt honno. Yn anffodus collwyd dalen, dwy o bosibl, ar ddechrau ‘Pandosto’. Dyma’r adran lle y byddai’r Ffŵl yn cyfarch y gynulleidfa ac yn cael ganddi ymdawelu cyn i’r chwarae ddechrau o ddifrif. Y mae’n bosibl y byddai’r adran goll hon wedi cynnwys cyfeiriad at yr awdur, yn enwedig gan fod y cyfeiriad ar ddiwedd y chwarae yn un mor benagored:

Os gofynnir pwy yn ddiamgen
A bregethodd y fath brygowthen
Rhyw lun o brydydd annedwydd ei nâd
A fagwyd yng ngwlad cenfigen.

Ond nid oes lle i amau’r priodoli am fod un darn o dystiolaeth annibynnol yn cadarnhau mai Huw Jones yw’r awdur. Argraffwyd un o ganeuon yr anterliwt, cân y frenhines Belaria pan oedd yn y carchar, mewn llyfr baledi a ddaeth o wasg John Rowland yn y Bala, ac i Huw Jones y’i rhoddir.[5]

Nid oes dyddiad ar wynebddalen y llyfr baledi sy’n cynnwys cân Belaria, ond gwyddys mai rhwng 1761 a 1764 yr oedd John Rowland yn argraffu yn y dref.[6] Yn ogystal ag ategu datganiad Rees Lloyd ynghylch yr awdur, prawf y faled fod yr anterliwt wedi ei llunio erbyn 1764 fan hwyraf. Copïo’r testun a wnaed ym mis Medi 1786. Bu farw Huw Jones yn mis Rhagfyr 1782, a gallai’r copi llawysgrif awgrymu fod ei waith yn dal i gael ei chwarae bedair blynedd ar ôl ei farwolaeth. Gwyddys fod nifer o’i faledi wedi eu hailargraffu hefyd ar ôl ei ddyddiau. Ond gellir bod yn fwy manwl wrth geisio dyddio ‘Pandosto’, ac y mae un cyfeiriad yn benodol yn yr anterliwt sy’n peri tybio mai yn 1760 neu 1761 y lluniwyd hi. Os felly dyma’r anterliwt gyntaf i Huw ei llunio ar ei ben ei hun; yn ystod misoedd cyntaf 1762 y gwelwyd mewn print Hanes y Capten Ffactor. Ceir cyfeiriad yn y lle cyntaf at y Rhyfel Saith Mlynedd a ddechreuodd yn 1756. ‘A glywsoch chi, yr henwr addas, / Ei bod yn rhyfel mawr drwy’r dyrnas?’ yw’r cwestiwn sydd gan Syr Rogri, y Ffŵl, i’r Cybydd, ac arwain y sylw at ymddangosiad y Cwnstabl sy’n ceisio listio’r ddau ohonynt. Un o ganlyniadau’r Rhyfel Saith Mlynedd oedd sefydlu llu yn mhob sir yng Nghymru a Lloegr i wrthsefyll bygythion y gelyn, ac ym mis Mai 1760 y sefydlwyd milisia sir Ddinbych.[7] Ar ôl y dyddiad hwn y lluniwyd yr anterliwt. Cyn diwedd y chwarae bu’n rhaid i’r Cybydd yn ‘Pandosto’ roi arian parod yn llaw’r Cwnstabl er mwyn cael dianc o Ruthun  ac ymryddhau o grafangau’r Milisia.

Mi weries-i ers blwyddyn
Rhyngddyn nhw a thraenbands Rhuthun
Bymtheg o bunne bob rhyw dro.
Fy melltith eto i’w calyn!

Ceir golygfa debyg yn Hanes y Capten Ffactor. Y tro hwn y Cybydd ei hun sy’n cael y dasg o gynnull llu o filwyr, a chwyna fod hynny yn hawlio amser y gallai fod yn ei dreulio yn trin ei dir ac yn gwarchod ei anifeiliaid. Os oes coel ar eiriau’r Cybydd, ymddengys mai’r unig rai sy’n cael eu plesio gan y ddeddf a arweiniodd at greu’r llu sirol yw’r merched sy’n cael amser da yng nghwmni’r milwyr o dan hyfforddiant:

Dyna gyfreth wine
I sbwylio’r holl ferchede;
Os gwiw i’r rheini yn ein gwledydd ni
Oddi tanyn’ mo’r codi eu tine.

Er bod sawl gwlad benben â’i gilydd yn ystod y Rhyfel Saith Mlynedd ceir mynych gyfeirio ym maledi’r cyfnod at elyn traddodiadol Prydain, sef gwŷr Ffrainc. Y mae’r gytgan yn yr Epilog sy’n cloi’r chwarae yn fodd i atgoffa’r gynulleidfa ei bod yn adeg o gyni a bod perygl y byddai Ffrainc yn ymosod ar Brydain:

Duw, cadw’r dyrnas wiwras ore
Rhag syrthio i ffroene Ffrainc,
A George ein brenin, gwreiddyn graddol,
I gadw ei bobol, gwrol gainc.[8]

Y mae dau gyfeiriad arall yn yr anterliwt, er bod y rhain yn llai penodol, sy’n ategu’r awgrym mai tua 1760 neu 1761 y lluniwyd hi. Mewn un olygfa dywed Sioned, merch y Cybydd, fod ei gŵr yn y carchar yn Rhuthun, a chais gymorth gan ei thad i fagu ei dau blentyn. Gwyddys fod Huw Jones, yntau, wedi ei garcharu yn Rhuthun am ddyled, a hynny yn 1755 yn ôl pob tebyg, ac y mae’r awdur yn ddigon parod i droi pennod anffodus yn ei yrfa yn destun digrifwch, fel y gwna yn wir ar achlysur arall. Rhybuddir y Cybydd yn Hanes y Capten Ffactor y caiff ei anfon i garchar Rhuthun oni lwydda i dalu ei holl ddyledion ar fyrder. Byddai’r ddau gyfeiriad hyn wedi taro deuddeg pan fyddai helyntion Huw Jones yn dal yn destun siarad. Mewn golygfa arall clywir am ddigofaint Eigistus tuag at fugail tlawd am fod mab y brenin mewn cariad â’i ferch brydferth. Adduneda’r brenin y caiff y bugail a’i ferch eu caethgludo:

Ond am y bugel yn ddigyffro,
Mi fydda’ siŵr o’i draenysbortio;
A’r ferch anhawddgar sy yn ei lys
Yn gofus gydag efo.

Fe fyddai’r gynulleidfa wedi deall yr ergyd yn y pennill hwn hefyd. Cyhuddwyd y bardd a’r anterliwtiwr Siôn Cadwaladr o ddwyn arian o logell gŵr o’r enw Robert Hughes, a phan fu o flaen ei well ddechrau 1759 fe’i cafwyd yn euog a’i gosbi trwy ei ‘draenysbortio’ i Bensylfania am saith mlynedd. Disgrifiodd Siôn Cadwaladr ei amgylchiadau yn y carchar yn Nolgellau mewn dwy faled a luniodd cyn iddo gael ei alltudio o Gymru, a lluniodd faled arall pan gafodd ddychwelyd i Gymru ymhen saith mlynedd.[9] Byddai bygythiad o’r fath yn ddigon i welwi gwedd pobl y Bala a’r cyffiniau, a hwythau yn gyfarwydd ag un a ddioddefodd y gosb arswydus hon.

Un hynodrwydd a berthyn i’r tair anterliwt a argraffwyd yw’r modd y llwyddodd Huw Jones i sicrhau fod y ddwy haen, yr haen a fyddai’n cyflwyno’r stori annibynnol a rôi ei henw i’r chwarae ar y naill law a’r haen a fyddai’n dilyn trywydd y Cybydd a’i deulu ar y llaw arall, yn gwbl gyfartal. Ni ddigwydd hyn yn Y Brenin Dafydd ond ni fyddai hynny yn destun syndod am mai cywaith oedd yr anterliwt honno. Ond ni ddigwydd yn ‘Pandosto’  ychwaith, ac awgryma hynny ei bod yn rhagflaenu Hanes y Capten Ffactor a argraffwyd, fel y gwelwyd, yn 1762. Yn yr anterliwt honno neilltuwyd 262 pennill (43.5%) o’r cyfanwaith ar gyfer anturiaethau’r Capten Ffactor a 249 pennill (41.3%) ar gyfer helyntion y Cybydd. Y canrannau cyfatebol yn ‘Pandosto’ yw 56% (stori Pandosto) a 30% (helyntion y Cybydd).[10]

*          *          *          *

Nid yw’r testun a ddiogelwyd yn llawysgrif LlGC 12865A yn gyflawn, ysywaeth. Collwyd ambell air yma a thraw ar ddechrau’r penillion oherwydd traul, ond collwyd rhai dalennau cyfan yn ogystal. Diflannodd dalen neu ddwy ar ddechrau’r chwarae, fel y nodwyd.[11] Yn y rhan hon disgwylid i’r Ffŵl gyfarch y gynulleidfa a denu ei sylw. Neilltuwyd naw  pennill yn Hanes y Capten Ffactor ar gyfer yr araith agoriadol, chwech yn Histori’r Geiniogwerth Synnwyr a deuddeg yn Protestant a Neilltuwr. Collwyd y rhan hon yn ‘Pandosto’ ac egyr dalen gyntaf y llawysgrif â dau bennill sy’n cloi sgwrs rhwng y Traethydd a’r Holwr. Ymddengys, felly, fod dechrau’r anterliwt yn cyfateb i ddechrau Y Brenin Dafydd. Yn honno hefyd dilynir sylwadau agoriadol y Ffŵl gan ymddiddan rhwng y Traethydd a’r Holwr. Yn y rhan hon câi’r gynulleidfa wybod am fwriadau’r chwaraewyr, am amgylchiadau’r cyfansoddi ac, o bosibl, am yr awdur.  Y mae dalen neu ddwy yn eisiau yng nghanol y chwarae hefyd er nad yw’r modd y rhifwyd y tudalennau yn y llawysgrif yn dangos hynny. Rhan o stori Pandosto a gollwyd y tro hwn. Yr oedd y brenin Pandosto wedi penderfynu lladd ei wraig trwy ei llosgi am ei fod yn barnu iddi fod yn anffyddlon iddo. Llwydda Belaria, ei wraig, i ddwyn perswad arno i anfon dau o’i weision i deml Apolo, ac y mae lle i dybio y ceir tystiolaeth yn y fan honno a fydd yn gyfrwng amddiffyn enw da Belaria ac achub ei bywyd. Collwyd y rhan hon, ond yn ffodus amlinellir y digwyddiadau coll yn y crynodeb a gyflwynir ar y dechrau ac fe’u crybwyllir yn gynnil hefyd yn yr Epilog sy’n cloi’r chwarae. Gellir casglu fod yr adran goll yn adrodd am y daith i deml Apolo, am y modd y cymodwyd Pandosto a Belaria wedi i’r gweision ddychwelyd, am farwolaeth eu mab cyntafanedig ac am farwolaeth Belaria, hithau, o dor calon. Yn Hanes y Capten Ffactor cyflwynir nifer o’r digwyddiadau yn rhan olaf y stori yn gryno a sydyn, ac er bod sawl digwyddiad i’w cofnodi yn y rhan goll yn ‘Pandosto’, nid yw’n dilyn fod nifer mawr o dudalennau wedi eu colli. Gallai Huw Jones adrodd stori mewn ffordd afaelgar ond diwastraff pan fynnai.

*          *          *          *

Dewisodd Huw Jones adrodd stori serch mewn dwy o’i anterliwtiau, a dilynir trywydd tebyg yn ‘Pandosto’. Y mae ffyddlondeb a theyrngarwch yn themâu pwysig hefyd yn Hanes y Capten Ffactor ac yn Histori’r Geiniogwerth Synnwyr, a dangosir bod gweithredoedd da yn cael eu gwobrwyo a’r drwg yn cael ei gosbi yn ddieithriad. Er bod cyfle i bwysleisio’r wedd hon yn ‘Pandosto’ nid yw’n hawlio’r un sylw y tro hwn. Cyfeiriwyd eisoes at rai o’r digwyddiadau pwysicaf yn ‘Pandosto’. Fel y nodwyd, awydd y brenin i ddial ar ei wraig am ei fod yn amau ei bod hi ac Eigistus, brenin Sisilia, wedi godinebu sydd wrth wraidd y stori. Rhaid i Eigistus ddychwelyd i’w wlad ar frys, carcherir Belaria a rhoddir y ferch a aned iddi yn ystod ei chaethiwed mewn cwch a’i gadael ar drugaredd y tonnau. Clodforir diffuantrwydd Meiran a wrthododd gyflawni ewyllys Pandosto a gwenwyno Eigistus, a phwysleisir bod Belaria yn dal yn ffyddlon i’w gŵr er gwaethaf ei hanghysur a’i dioddefaint. Newidir y lleoliad yn rhan nesaf y stori lle y clywir bod Dorastus, mab Eigistus, mewn cariad â Ffonia, merch bugail tlawd, a’i fod yn awyddus i’w phriodi. Caiff y gynulleidfa wybod mai mewn cwch ar y traeth y canfu y bugail hi. Nid yw Eigistus yn barod i gymeradwyo’r uniad, a phenderfyna Dorastws a Ffonia, ynghyd â’r bugail ffyddlon, hwylio i ffwrdd i’r Eidal. Daw storm a’u gyrru i Bohemia, tiriogaeth Pandosto, ac yno carcherir Dorastws a’r bugail ond cynigir ei rhyddid i Ffawnia os daw yn gywely i’r brenin. Clyw Eigistus ymhen yrhawg fod ei fab wedi ei garcharu a chais ddwyn perswad ar y brenin Pandosto i’w ryddhau ond caiff wneud fel y myn â Ffawnia a’i thad. Cyn i Pandosto eu dienyddio datgela’r bugail nad ef yw tad Ffawnia a datgela fel y canfuwyd hi mewn cwch ar y traeth wedi ei gwisgo mewn hugan goch a chanddi gadwyn aur o amgylch ei gwddf. Yn ffodus y mae’r hugan a’r gadwyn yn ei feddiant a phan ddangosir hwy i’r gynulleidfa sylweddola Pandosto mai ei ferch ef yw Ffawnia a chynigia hi yn wraig i Dorastus. Mawrygir ffyddlondeb Ffawnia a wrthododd gymryd Pandosto yn ŵr am fod ei gwir gariad yn y carchar, ac nid yw ymddygiad Dorastus yn llai teilwng am ei fod yn cynnig aberthu ei fywyd er mwyn arbed ei anwylyd.

Y mae’r stori a adroddwyd gan Huw Jones yn dilyn yn bur ffyddlon The Triumph of Time Robert Greene, rhamant ar ffurf rhyddiaith a gyhoeddwyd yn 1588.  Ni wyddys am addasiad Cymraeg arall, a rhaid tybio mai mewn testun Saesneg y darllenodd Huw Jones y chwedl yn y lle cyntaf.[12]

Disgwyliai’r gynulleidfa weld cyflwyno stori am helyntion y Cybydd am yn ail â hanes Pandosto. Ymgorfforwyd nifer o episodau cyfarwydd yn y rhan hon. Ceir clywed y Cybydd yn cwyno ar gyfrif oferedd a diogi’r gweision a’r morynion pan ddaw i’r llwyfan am y tro cyntaf cyn i’w ferch Sioned ei hysybysu fod ei wraig wedi marw a bod disgwyl iddo drefnu claddedigaeth deilwng iddi. Cyn bo hir caiff y Cybydd ar ddeall, diolch i Syr Rogri, y Ffŵl, fod ei wraig mewn dyled ar ôl iddi wario yn ffri, a hynny yn ddiarwybod iddo,  nid yn unig ar de a siwgr, ‘A resins a chyrens oddi tu draw i’r dŵr’, ond hefyd ar wisgoedd ac addurniadau. Myn Sioned, hithau, ddillad gwychion fel y gall ddenu gŵr o statws, a llwydda i wneud hynny, er mawr fodlonrwydd i’w thad, ond cyn bo hir y mae hi’n dlawd a dimgeledd am fod ei gŵr yn y carchar, a rhaid i’r Cybydd warchod ei dau blentyn. Mewn golygfa arall caiff y Cybydd a’r Ffŵl eu gorfodi i ymuno â’r milisia, a rhaid i’r Cybydd dalu am gael ei ryddhau.  Â i’r dafarn i ddathlu ei waredigaeth, ac ar ôl yfed a meddwi cais berswadio’r Ostres i ymuno ag ef yn y gwely, digwyddiad a ailadroddir yn Hanes y Capten Ffactor ac yn Y Brenin Dafydd.  Dygir ei arian gan y Ffŵl a’r Ostres a dyma’r ail achlysur pan gaiff y Cybydd ei dwyllo yn ariannol. Marwolaeth y Cybydd sy’n cloi’r rhan hon o’r chwarae. Mewn golygfa fer daw’r Angau i’r llwyfan i’w daro, a rhaid iddo ymadael â’i eiddo ac â’r byd yn sydyn. Ni chaiff gyfle hyd yn oed i fyfyrio am yr hyn a oedd yn digwydd ac i fynegi ei edifeirwch:

  Cybydd Ow! gad imi aros, medda’,
Dan amod y flwyddyn yma.
  Angau Rhaid iti gychwyn yn ddi-drai
Yn ddisiarad. Hai! prysura!

Y mae i’r Ffŵl ran amlwg iawn yn y chwarae. Ef sy’n twyllo’r Cybydd trwy ddwyn ei arian, gyda chymorth yr Ostres, ac ef sy’n cludo corff y Cybydd ymaith i’w gladdu ar y diwedd. Gweithreda hefyd yn ddolen gyswllt rhwng y ddwy haen. Ei orchwyl ef, er enghraifft, yw hebrwng Belaria i’r carchar a mynd i chwilio am ddeunydd addas i gynnau tân i’w llosgi i farwolaeth. Ymddengys fod ganddo arwydd ffalig yn ei feddiant: ‘Hwdiwch chwithe, llygad llon, / A roddwch chwi hon i huno?’ yw ei sylw cynnil ond awgrymog wrth iddo adael y llwyfan ar ddiwedd un olygfa. Ei waith ef hefyd yw cynghori’r merched, a neilltuir un o’r chwe chân yn yr anterliwt ar gyfer ei gyngor. Lleolir y gân tua chanol yr anterliwt.

Cynnwys ‘Pandosto’ ddwy ar bymtheg o rannau.[13] Gwelir pedwar cymeriad ar y llwyfan mewn sawl golygfa, ond byddai rhaid wrth bum cymeriad o leiaf i’w chyflwyno am fod cynifer â hyn gyda’i gilydd ar y llwyfan mewn un olygfa. Nid oes yma awgrym fod yr awdur yn rhan o’r cwmni, ac yn wahanol i Tri Chryfion Byd Twm o’r Nant nid oes lle i gredu fod un actor yn hawlio’r rhan fwyaf o’r sylw.[14] Cynnwys yr anterliwt chwe chân, a dosbarthwyd y rhain yn bur gyfartal rhwng y prif gymeriadau:

  1. Belaria (yn y carchar) : ar Dôn y Ceiliog Du
  2. Pandosto (yn dilyn marwolaeth ei wraig a’i blentyn) : ar Elusenni Meistres
  3. Y Ffŵl yn cynghori’r meched : ar Green Windsor
  4. Y Cybydd a’r Ffŵl yn y dafarn : ar Hityn Dincer
  5. Dorastus a’r Bugail (yn y carchar) : ar Droad y Droell
  6. Pandosto, Dorastus a Ffonia yn llawenhau fod popeth bellach yn ei le : ar Grimson Felfed

Cyflwynir dwy ddawns yn ogystal, y naill yn dilyn y crynodeb ar y dechrau a’r ail ar y diwedd cyn yr Epilog.


[1]  G G Evans, ‘Yr anterliwt Gymraeg’, Llên Cymru 1 (1950–1), 83–96.

[2]  Ar y llsgr., gw. HMNLW iv, 330.

[3]  A Cynfael Lake gol., Anterliwtiau Huw Jones o Langwm (Caernarfon, 2000), 204.

[4]  Anterliwtiau Huw Jones o Langwm, 197.

[5]  Baled JHD 483ii.

[6]  LW 871.

[7]  J R Western, The English Militia in the Eighteenth Century (London, 1965), 448.

[8]  Dymuniad i weld Duw yn amddiffyn y brenin a’i frenhines, Charlotte, ynghyd â’r eglwys, sy’n cloi’r anterliwt   Hanes y Capten Ffactor.

[9]  A Cynfael Lake, ‘Alltudiaeth Siôn Cadwaladr’, Llên Cymru 32 (2009), 148–60; Id., ‘Alltudiaeth Siôn Cadwaladr: nodyn ychwanegol’, Llên Cymru 33 (2010), 189–91.

[10]  Ar y tir hwn nid yw’r anterliwt yn wahanol iawn i Y Brenin Dafydd lle y neilltuwyd 51% o’r penillion ar gyfer hanes Dafydd a 33% ar gyfer helyntion Madog Chwannog, y Cybydd.

[11]  Collwyd rhyw bedwar tudalen i gyd ond adferwyd rhyw gymaint am fod copïwr arall wedi llenwi’r bwlch ac wedi ychwanegu dwy ddalen sy’n cynnwys diwedd y sgwrs rhwng y Traethydd a’r Holwr a’r crynodeb arferol.

[12]  Yn ôl catalolog ar lein y Llyfrgell Brydeinig cafwyd argraffiadau yn 1588, 1592, 1595, 1609, 1614, 1619, 1632 a 1636. Ceir testun electronig o ramant Robert Greene (ar sail argraffiad 1595) ar safle a ganlyn: <http://internetshakespeare.uvic.ca/Annex/DraftTxt/Pandosto/pandosto.html/>

[13]  Tebyg y dylid ychwanegu dwy ran arall, sef y ddau was a anfonir (yn y rhan a gollwyd) i deml Apolo.

[14]  Gw. sylwadau dadlennol Rhiannon Ifans ar y modd y gofalodd Twm o’r Nant mai ef ei hun a gâi’r rhannau gorau yn yr anterliwt Tri Chryfion Byd, yn ‘Celfyddyd y Cantor o’r Nant’, Ysgrifau Beirniadol XXI (Dinbych, 1996), 120–46.