Ffrwyth prosiect a ariannwyd gan Fwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru yw’r rhan fwyaf o’r deunydd ar y wefan hon. Diolch i nawdd y Bwrdd, penodwyd Dr Alaw Mai Edwards yn gymrawd ymchwil i weithio o dan gyfarwyddyd Dr A Cynfael Lake o Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe, ac i gasglu ynghyd yr holl faledi o waith Huw Jones o Langwm a ddiogelwyd, naill ai mewn llawysgrifau neu mewn ffynonellau print—yn llyfrau baledi ac yn flodeugerddi. Hyd y gwyddys nid ymddangosodd yr un faled o waith Huw Jones mewn almanac. Cwblhawyd y gwaith hwn yn ystod y flwyddyn Hydref 2006 a Medi 2007 a llwyddwyd i gasglu rhyw ddau gant o faledi i gyd. Cyhoeddwyd detholiad o hanner cant o’r baledi gan y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn 2010, sef Detholiad o Faledi Huw Jones ‘Llymgi Penllwyd Llangwm’.

Er bod rhai cannoedd o faledi wedi eu llunio yn ystod y ddeunawfed ganrif, ac er bod enwau megis Huw Jones o Langwm, Twm o’r Nant ac Elis y Cowper, yn dra chyfarwydd, ni chasglwyd ynghyd holl waith yr un awdur hyd yn hyn. Bu awduron y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn fwy ffodus a chyhoeddwyd detholiad o weithiau beirdd megis Abel Jones, Dic Dywyll ac Ywain Meirion yn gymharol ddiweddar. Y gobaith yw y bydd y prosiect hwn yn llenwi bwlch pwysig ac yn sicrhau bod casgliad cyflawn o waith un o faledwyr mwyaf cynhyrchiol ei oes ar gael.

Diolch i’r gwaith a wnaed yn Adran y Gymraeg Prifysgol Bangor, ffrwyth prosiect arall a ariannwyd gan y Bwrdd Gwybodau Celtaidd, y mae ar gael erbyn hyn fynegai hylaw i’r baledi a welodd olau dydd mewn llyfrau print yn ystod y ddeunawfed ganrif, gw. http://www.e-gymraeg.org/cronfabaledi/. Erbyn hyn hefyd, diolch i nawdd JISC, sicrhawyd bod modd archwilio delweddau digidol o lawer iawn o’r baledi hyn ar safle Baledi Cymru Llyfrgell Genedlaethol Cymru, gw. http://cat.llgc.org.uk/cgi-bin/gw/chameleon?skin=baledi. Gallwch weld trawsysgrifiad arall o 22 o faledi Huw Jones ar wefan Corpws Hanesyddol yr Iaith Gymraeg 1500-1850, http://people.ds.cam.ac.uk/dwew2/hcwl/hafan.htm