1744

Huw Jones o Langwm a Rose Humphreys o blwyf Llanfihangel Glyn Myfyr yn priodi ar 31 Awst

Dyddiad y faled gyntaf y gwyddys i Huw ei llunio (‘Pob dyn diniwed, cydwrandawed’)

1759

Dewisol ganiadau yr oes hon, gw. Libri Walliae 2914. Argraffwyd yn Amwythig gan Stafford Prys. Y rhan gyntaf yn cynnwys cerddi cynganeddol o waith beirdd megis Goronwy Owen, Ieuan Fardd, William Wynn Llangynhafal, Rhys Jones o’r Blaenau, ac Edward Jones, Bodfari, a’r ail ran yn cynnwys baledi gan feirdd megis Elis y Cowper, Jonathan Hughes, Daniel Jones, Rhiwabon, Thomas Jones, Rhiwabon, Huw Jones, y Parc, a Huw Jones ei hun. Ceir 5 o faledi Huw ei hun rhwng tudalennau 80-96 a 4 arall rhwng tudalennau 141-53. Gwelir ar ddechrau’r gyfrol gyfres o benillion yn annerch y Cymry ac yn cyflwyno’r gyfrol i’w sylw.

1762

Anterliwt Hanes y Capt. Factor, gw. Libri Walliae 2928. Argraffwyd yn Llundain gan William Roberts.

Huw Jones yn gwerthu Hanesion o’r hen oesoedd o waith Thomas Williams, Tal-y-bont, gw. Libri Walliae 5419

1763

Cyhoeddi llyfryn 24 tudalen Cyngor difrifol i gadw Dydd yr Arglwydd (cyfieithiad o waith Josiah Woodward An Earnest Persuasive to the Serious Observance of the Lord’s Day), gw. Libri Walliae 1407. Argraffwyd yn Llundain gan William Roberts. Yn cynnwys testun rhyddiaith, baled Huw Jones ‘Myfyriwch holl Gristnogion’, ‘Cywydd y Bedd’ Rowland Huw, a chyfres o chwe englyn, eto gan Huw Jones ‘Myfyrdod i ddyn ifanc ar y Sabath’.

Hefyd Diddanwch teuluaidd, gw. Libri Walliae 2917. Gwaith beirdd Môn, sef Goronwy Owen, Lewis Morris a Huw Huws y Bardd Coch yn benodol, ynghyd a rhai darnau gan Richard Morris, Siôn Owen, Rhisiart Bwclai, a Robin Hughes (Robin Ddu yr Ail o Fôn). Ar ddechrau’r casgliad ceir cerdd gan Huw i gynghori’r merched (’’Dowch, ferched a morynion, i ’styrio ’nghlwy’) ynghyd â chyfres o 6 englyn i annerch y Cymry.

tua 1765

Enterlut, neu ddanghosiad o’r modd y darfu i’r Brenin Dafydd odinebu efo gwraig Urias, gw. Libri Walliae 2935. Argraffwyd yng Nghaer gan William Read & Thomas Huxley tua 1765, ond tebyg mai tua 1759 y lluniwyd hi. Cywaith Huw Jones a Siôn Cadwaladr yw’r anterliwt hon.

1775

Histori’r geiniogwerth synnwyr ar ddull enter lute, gw. Libri Walliae 2929. Argraffwyd yn Wrecsam gan Richard Marsh.

1782

Ei gladdu ym mhlwyf Efenechtyd sir Ddinbych ar 29 Rhagfyr.

1783

Enterlute newydd; ar ddull ymddiddan rhwng Protestant a Neilltuwr, gw. Libri Walliae 2924. Argraffwyd yn Amwythig gan T Wood.