Ceir yn yr adran hon olwg ar fywyd a gwaith Huw Jones trwy eiriau ei gyfoeswyr, rhai yn ganmoliaethus, eraill yn fwy beirniadol

Wiliam Morris (llythyr at Siôn Owen, 31 Hydref 1758, gw. ML ii, 94)

This is a comon balad singer, meddynt imi.

Edward Richard (llythyr at Lewis Morris, 13 Awst 1759, gw. ALMA llythyr 197)

Did you hear that one Hugh Jones is now printing off at Shrewsbury your son Gronw’s work, William Wynne’s & some others … This Information though late may possibly prevent murder.

William Wynn, Llangynhafal (llythyr at Richard Morris, 24 Medi 1759, gw. ALMA llythyr 202)

We have another Publisher, one Hugh Jones of Llangwm. I am told his Book is now in the Press. He has some of the works of Goronwy, Ieuan & myself; what he has besides I know not tho’ I have subscribed; murdering work I supppose. These Bumkins have Ignorance & self conceit in conjunction.

Lewis Morris (llythyr at Edward Richard, 8 Tachwedd 1759, gw ALMA llythyr 208)

There is another bungler now a publishing some poetry by subscription, one Hugh Jones. Mr Wiliam Wynn says he is a professed poet, and he hath given him leave to print some of his works. Mr. Wynn is fonder of fame than I should be, when got through such mean channels.

Englynion Rhys Jones o’r Blaenau i gyfarch Huw Jones a Dewisol Ganiadau yr Oes Hon

Rhoed pob tafod glod yn glwm—heb orffwys,
Mae’n berffaith ei reswm,
Hoywlawn ei dro, i Huw’n drwm
A’i lawengerdd o Langwm.

Argraffaist, nyddaist newyddion—gerddi,
Gwiw urddas prif feirddion,
Manwl gywyddau mwynion,
I euro sail yr oes hon.

Corf durfing, cryf yw d’arfod,—dw’ addfwyn,
Mewn deddfol fyfyrdod;
Gŵr di-feth, gwir yw dy fod
Yn berwi o awen barod …

Di gei fawl haeddawl o hyd—am d’orchwyl,
Da erchwyn celfyddyd,
Tra bo haul, araul wryd,
Gloyw beth, yn goleuo byd.

Lewis Morris (llythyr at Edward Richard, 20 Mai 1761,  gw. ALMA llythyr 277)

I was favoured lately with the company of a mountain poet who prided himself in being a wanderer like the ancients. He is known by the name of Hugh Jones of Llangwm. He is truly an original of the first order, and worth seeing, hath a natural aversion to Saxons and Normans and to all languages but his own.

Lewis Morris (Diddanwch Teuluaidd, t. ii)

The Editor, being an Itinerary Bard, in the manner of the Ancients, hath given me leave to tell his Readers, that he pretends to neither Learning nor Languages; he despises them all, except his own; as the chief Greek Poets did, calling other Languages barbarous. He can hardly be persuaded, that the English or French Nations have any thing that may be properly called Poetry; such is man’s partiality towards his own Country and People.

William Morris (llythyr at Richard Morris, 16 Tachwedd 1761, ML ii, 410)

Mae arnaf ofn am Langwm nad un o’r cywiriaid mono. Da os wyf yn camgymeryd, ond e?

Richard Morris (llythyr at Lewis Morris, 14 Rhagfyr 1762, gw. ML ii, 524)

Ni chlywaf i hanes na migwrn nac asgwrn o’r penbwl gan Langwm; rwy’n ofni mai ceryn llywowenaidd yw.

Richard Morris (llythyr at Evan Evans, 18 Chwefror 1764, ALMA llythyr 316)

Ffei o hono Llangwm frwnt, rwy’n lled ammau ei onestrwydd; mae arno aneirif o arian i’r argraphydd yma, yr hwn sydd arno eu heisiau.

Evan Evans (llythyr at Richard Morris, 23 Mehefin 1766, ALMA llythyr 342)

Ni feddyliais i erioed fod y carnlleidr o Langwm cynddrwg, er i mi fynegi’ch deu-frawd fwy nog unwaith, nad ymddiriedent ormod iddo, o herwydd nad oes iddo mo’r gair da gan y sawl a’i hadwaen yn dda.

Englyn beddargraff gan William David, Caernarfon

Mae prudd-der, mae trymder twm—a hiraeth
Oherwydd ei godwm;
Fe aeth i’r bedd, saledd swm,
Hoyw longerdd Huw o Langwm.

 Englyn beddargraff gan John Jones, Caeronw

Huw Llangwm sydd lwm ei le—dan garreg
Yn gorwedd mewn caethle;
Bardd enwog o bêr ddonie
’R dydd a fu ydoedd efe.

 Englyn beddargraff gan David Thomas ‘Dafydd Ddu Eryri’

Gwael yw y lle a gwely llwm—prydydd
Parodol ei gwlwm,
Huw, bur ei glod, hoywber glwm,
Loyw awengerdd, o Langwm.

 Englyn beddargraff gan Wiliam Evans

Islaw mae athraw othrwm—Huw Siôn
A’i hoywsain gwlwm;
Llyma’r maen, tramaen twrm,
Fwrdd llengudd, ar fardd Llangwm.

Twm o’r Nant (Hunangofiant, t. 33)

Mi wneuthum Interlute cyn bod yn 14 oed yn lân i ben; a phan glybu ’nhad a’m mam nid oedd i mi ddim heddwch i’w gael; ond mi beidiais â’i llosgi; mi a’i rhoddes i Hugh o Langwm, prydydd enwog yn yr amser honno; yntau aeth hyd yn Llandyrnog ac a’i gwerthodd am chweugain i’r llanciau hynny, pa rai a’i chwaraeasant yr haf canlynol. Ond ni chefais i ddim am fy llafur, oddieithr llymaid o gwrw gan y chwaraeyddion pan gwrddwn â hwynt.

Gwilym Lleyn (Llyfryddiaeth y Cymry, t. 450)

Yr oedd Hugh Jones, o Langwm, Dafydd Jones, o Drefriw, ac Elis Roberts, y cooper, yn gyfoeswyr, ac yn gyfeillion gwresog. Crach-brydyddion oedd y tri, a hoff iawn o gwmni Syr John Heidden; a’r tri yn fath o ddigrifwyr; canent yn ddigrifol a chellweirus, yn ol fel y byddai y cwmni, ac yn aml gwnaent wawd o bethau crefyddol.