Ceir yma destun wedi ei olygu, ynghyd â thestun gwreiddiol, o holl faledi Huw Jones o Langwm, cyfanswm o 193 o faledi i gyd. Rhestrir y baledi yn ôl trefn yr wyddor mewn un mynegai ond fe’u rhestrir hefyd mewn ail fynegai yn ôl eu pwnc, a dosbarthwyd yr holl faledi o dan 13 pennawd. Yn yr ail fynegai y teitlau yn hytrach na’r llinellau cyntaf a restrir. Wrth reswm, gellir dosbarthu llawer o’r baledi o dan fwy nag un pennawd, ac y mae’n amlwg mai dewis goddrychol sydd yn cyfrif am y rhestr hon i raddau helaeth. Gobeithio, serch hynny, y bydd y modd y dosbarthwyd y cerddi o gymorth i’r defnyddiwr wrth iddo neu iddi geisio dilyn un trywydd arbennig. Bydd y rhestr hon hefyd yn cyflwyno darlun o’r math o bynciau a apeliai at Huw Jones, Llangwm. Mewn trydedd restr dosbarthwyd y baledi yn ôl enw’r tonau a ddefnyddiwyd.

Y dosbarthiadau thematig a ddewiswyd yw:

1.  Amrywiol

Ceir yma gerddi annerch mewn llyfrau print ynghyd â darnau o gerddi anghyflawn. Mewn un gerdd gresynir at y ffaith fod tymor canlyn yr anterliwt wedi dod i ben ac y collir yr holl hwyl a’r llawenydd a oedd yn gysylltiedig â’r cyfrwng.

2.  Annerch y Byw a’r Marw

Cerddi yn annerch aelodau o deuluoedd bonheddig Garthmeilo, Ynysymaengwyn a Wynnstay ar achlysur priodas a dyfod i oed, ond ceir cerddi hefyd i bobl gyffredin ac i aelodau o’r milisia. Mewn dwy gerdd ar ffurf ymddiddan clywir gŵr a gwraig yn hiraethu am eu cymar. Un o’r darnau mwyaf anghyffredin yn y dosbarth hwn yw’r gerdd yn annerch caseg Hywel Lloyd o Hafodunnos a enillodd ornest ar forfa Conwy yn erbyn caseg fawr ei bri o sir Fôn.

3.  Baledi bywgraffyddol

Cerddi gan Huw i’w deulu gan gynnwys marwnad i un o’i ferched. Mewn dwy gerdd clywir am y trafferthion a ddaeth i’w ran pan garcharwyd ef yn Rhuthun am ddyled.

4.  Baledi ymddiddan yn null yr anterliwt

Yr oedd caneuon yn rhan bwysig o apêl yr anterliwtiau a byddai llawer o’r caneuon a genid yn cylchredeg yn annibynnol. Yr oedd cyswllt clos rhwng y ddau gyfrwng a byddai’r naill yn porthi’r llall. Lluniwyd llawer o gerddi ar ddelw caneuon yr anterliwt er ei bod yn bosibl fod rhai yn y dosbarth hwn yn perthyn i anterliwtiau a gollwyd. Ceir yma gerddi ymddiddan rhwng cymeriadau alegoriaidd a’i gilydd, e.e. Cenfigen a Chariad Perffaith, a rhwng y cybydd – cymeriad anhepgor ym mhob chwarae – a’r cardotyn. Fel arfer byddai Angau yn ymddangos ar ddiwedd y chwarae ac yn hawlio bywyd y cybydd, ac y mae yma dair cerdd sy’n ymwneud â’i farwolaeth.

5.  Carolau plygain a haf

Y cerddi plygain sydd amlycaf yma; dim ond un garol haf a ddiogelwyd. Fel arfer mydryddid y flwyddyn yn y math hwn o gerddi; perthyn y garol gynharaf i 1758 a’r olaf i 1782. Byddai Huw yn llunio mwy nag un garol ar gyfer ambell flwyddyn; diogelwyd dwy ar gyfer y blynyddoedd 1773, 1777 a 1778. Y mae’n ymddangos mai ar lafar y byddai’r dosbarth hwn o gerddi yn cylchredeg yn bennaf, ac mewn ffynonellau llawysgrifol yn hytrach na phrint y diogelwyd y rhan fwyaf ohonynt o ddigon.

6.  Crefyddol a moesol

Dyma’r dosbarth mwyaf o ran nifer y cerddi. Annog ei gyd-Gymry i fyw yn fucheddol a wna Huw yn y rhan fwyaf o’r cerddi hyn, a’u rhybuddio am eu tynged os na lwyddant i wneud hynny. Y mae byrdra bywyd, dyfodiad anochel marwolaeth a’r Farn yn themâu amlwg yn y cerddi hyn. Mewn sawl cerdd cysylltir y rhybuddion â digwyddiadau cyfoes megis marwolaeth Syr Watkin Williams Wynne yn 1749 a’r haint a laddodd lawer o anifeiliaid oddeutu 1753. Mewn tair cerdd disgrifir ymddygiad y Cymry yn yr eglwys ar y Sul a’u harferion cyn gynted ag y daw’r gwasanaeth i ben.

7.  Damweiniau a llofruddiaethau

Adroddir am ddigwyddiadau cyffrous yn y dosbarth hwn o faledi sy’n cyflawni swydd y wasg neu’r newyddion yn ein dyddiau ni. Adroddir am lofruddiaethau yng Nghymru a Lloegr (ni chrybwyllir yr un llofruddiaeth yn yr Alban) ac am y daeargryn a ddinistriodd ddinas Lisbon yn 1755. Dyma bwnc a ddenodd sylw sawl awdur arall. Yn y cerddi sy’n ymdrin â llofruddiaethau rhoddir manylion am y sawl a laddwyd a disgrifir cosb a thynged y troseddwyr. Y mae’n bosibl fod y cerddi sy’n disgrifio llofruddiaethau yn Lloegr yn seiliedig ar faledi Saesneg coll. Defnyddir yr achlysuron hyn i rybuddio’r gynulleidfa a’u hannog i osgoi drygau a phechodau.

8.  Meddwdod a’i ganlyniadau

Dyma bwnc a oedd yn amlwg yn agos at galon Huw a cheir yma 15 cerdd i gyd, sawl un ar ffurf ymddiddan – rhwng y meddwyn a’i wraig, rhwng y meddwyn a gwraig y dafarn neu rhwng y meddwyn a’i gydwybod (a gynrychiolir gan y gog). Edrychir ar y pwnc o sawl ongl ond yr hyn sy’n gyffredin yw’r modd y darlunnir canlyniadau anochel y ddiod nid yn unig o ran yr unigolyn meddw (dyn yn ddieithriad yn y cerddi hyn) ond hefyd o ran ei wraig a’i blant.

9.  Rhyfeloedd

Perthyn y grŵp hwn yn agos i’r cerddi sy’n ymdrin â llofruddiaethau a damweiniau. Digwyddiadau cyfoes yw’r pwnc unwaith eto, ond ar y llwyfan rhyngwladol y tro hwn. Mewn sawl cerdd hysbysir y Cymry am gwrs y Rhyfel Saith Mlynedd (1756–63), rhyfel a gyffyrddodd â’r rhan fwyaf o wledydd Ewrob, ac o safbwynt diddordebau a buddiannau Lloegr y cyflwynir y pwnc. Rhyfel Annibyniaeth America yn y saithdegau yw cefndir y cerddi eraill yn y dosbarth hwn. Mewn dwy gerdd a gyhoeddwyd gyda’i gilydd yn yr un llyfr baledi edrychir ar y rhyfel o ddau safbwynt gwrthgyferbyniol; Lloegr sy’n llefaru yn y naill ond ymateb digyfaddawd yr Americaniaid a fynegir yn y llall.

10.  Serch

Fel arfer byddai’r ffŵl yn yr anterliwt yn cynghori’r merched ar gân ac yn eu hannog i ymwrthod â phleserau cnawdol hyd nes y byddant yn briod. Lluniwyd nifer o gerddi ar ddelw’r caneuon cynghori – unwaith eto geill fod rhai ohonynt yn perthyn i anterliwtiau coll. Yn rhai o’r cerddi y bardd sy’n cynnig y cyngor ond mewn cerddi eraill y ferch sy’n llefaru ond yr un yw’r cyngor, serch hynny. Rhybuddir y merched trwy ddisgrifio canlyniadau beichiogrwydd a thrafferthion y fam ddibriod wrth geisio ymgynnal a magu ei phlentyn a’i chymar wedi hen gefnu arni; sonnir am dlodi ac angen, am y modd y bydd teulu a ffrindiau yn cefnu arni, ac am golli pleserau megis mynychu’r ffair. Caiff ei hatgoffa hefyd na fydd unrhyw lanc ifanc bellach yn deisyf ei chwmni. Nid yw’r meibion yn ddi-fai ond pwysleisir mai cyfrifoldeb y ferch yw amddiffyn ei henw da a’i gwyryfdod a ddelweddir mewn cyfres o drosiadau awgrymus. Mewn cerddi eraill yn y dosbarth hwn clywir ymddiddanion rhwng merched a’i gilydd ynghylch manteision priodi ac ynghylch eu gwyr.

11.  Troeon trwstan

Cerddi storiol yn adrodd am ddigwyddiadau ysgafn a doniol, llawer ohonynt yn fasweddus neu yn gnawdol eu cywair.

12.  Y byd sydd ohoni

Dyma ond odid yr adran fwyaf amrywiol o ran cynnwys er bod y cerddi i gyd yn darlunio bywyd yr oes ac amryfal haenau’r gymdeithas. Y pwnc amlycaf yw helyntion yr hwsmon (sy’n cyfateb i gybydd yr anterliwt) a chanlyniadau ymddygiad trachwantus y dosbarth cymdeithasol hwn ar y tlodion. Un arall sy’n wynebu trafferthion yw’r porthmon. Er ei fod yn gwasanaethu ei gyd-Gymry mewn ffordd allweddol ni chaiff ei werthfawrogi na’i gefnogi. Mewn cerddi eraill cyflwynir y  gwrthdaro rhwng y meistr tir da ei fyd a’r tenant anfoddog. Clywir cwynion am bris ymenyn ac am brider arian parod, ac ymdrinnir mewn cerddi eraill â’r milisia ac ag etholiadau. Canodd Huw ddyrnaid o gerddi clwb a chawsant hwythau le yn yr adran hon.

13.  Ymryson y te a’r cwrw

Perthyn y cerddi hyn yn agos i’r cerddi sy’n trafod meddwdod a’i ganlyniadau ond yn yr is-adran hon disgrifir brwydrau trosiadol rhwng y cwrw (a gefnogir gan y gwŷr) a’r te (a gefnogir gan y gwragedd). Pwysleisir mai diod frodorol yw’r cwrw ond trwyth estron a fewnforiwyd o wledydd pellenig yw’r te, neu Morgan Rondl fel yr adwaenid ef. Un peth diddorol ynghylch y cerddi hyn yw’r modd y rhestrir awduron megis Elis y Cowper a gwerthwyr llyfrau baledi megis Thomas Mark ymhlith canlynwyr Siôn yr Haidd neu’r cwrw.

Gwelir ar y wefan hefyd am y tro cyntaf destun wedi ei olygu o ddwy anterliwt o waith Huw Jones, sef Y Brenin Dafydd (a luniwyd ar y cyd gan Huw Jones a Siôn Cadwaladr neu Siôn o’r Bala, fel yr adwaenid ef) a ‘Pandosto’ a ddiogelwyd yn llawysgrif LlGC 12865A. Argraffwyd golygiad o dair o anterliwtiau Huw Jones eisoes yn A. Cynfael Lake gol., Anterliwtiau Huw Jones o Langwm (Caernarfon, 2000). At hyn, ceir braslun byr o fywyd a gwaith Huw Jones o Langwm ynghyd â llyfryddiaeth ddethol a chyfeiriad at safleoedd eraill sy’n ymwneud â’r faled.

Y testunau o’r baledi

Ceir yma fersiwn wedi ei olygu o bob baled o waith Huw Jones a ddiogelwyd naill ai mewn testun print neu mewn llawysgrif. Diweddarwyd yr orgarff ac atalnodwyd y testun, a cheisiwyd hefyd sicrhau rhyw gymaint o gysondeb o ran ffurfiau. Nid oedd hynny yn bosibl bob tro am fod Huw Jones, fel ei gyd-faledwyr, yn elwa ar hyblygrwydd yr iaith ac yn barod i ddefnyddio ffurfiau llafar, dro arall ffurfiau llenyddol, at ddibenion yr odl a’r gynghanedd. Ac felly bydd ened a fyned yn odli mewn un llinell ac enaid a rhaid mewn llinell arall. Yn yr un modd odlir perffaith a gwaith ar y naill law a perffeth a gelynieth ar y llaw arall. Y mae’r odlau a’r gynghanedd yn tystio mai defnyddio’r ffurfiau llafar yn hytrach na’r ffurfiau llenyddol oedd y norm. Ac felly, os nad oedd yr odl neu’r gynghanedd yn hawlio’r ffurfiau llenyddol, defnyddiwyd y terfyniad llafar –e enwol (am –au), hyd yn oed os defnyddiwyd y terfyniad llenyddol yn y testun gwreiddiol, ac yn yr un modd ceisiwyd sicrhau cysondeb trwy ddefnyddio’r terfyniad berfol –e (am y terfyniad berfol 3 un.amherff. –ai), ac –eth am –aeth.

Defnyddiwyd llythrennau italig yn y fersiwn a olygwyd i ddynodi fod y testun wedi ei newid mewn rhyw ffordd, er enghraifft, am fod gair neu lythyren wedi ei ychwanegu. Ni ddynodir newidiadau a oedd yn ymwneud ag orgraff neu ffurfiau llenyddol / llafar. Defnyddir llythrennau italig hefyd ar gyfer geiriau Saesneg a ymgorfforwyd yn y testun.

Yn ogystal â’r fersiwn wedi ei olygu darperir testun diplomatig o’r deunydd gwreiddiol a godwyd o ffynhonell brint neu o ffynhonnell ysgrifenedig. Gall y darllenydd gymharu’r gwreiddiol â’r fersiwn wedi ei olygu, a gweld pa newidiadau a wnaed. Diogelwyd cyfran helaeth o’r  baledi mewn un ffynhonnell yn unig. Un testun gwreiddiol a ddarparwyd yn y rhan fwyaf o achosion hyd yn oed os diogelwyd y faled mewn mwy nag un ffynhonnell, ond archwiliwyd pob testun wrth baratoi’r golygiad. Bu modd llenwi sawl bwlch mewn testun anghyflawn trwy ei gymharu â thestun neu destunau eraill. Rhan fynychaf mân wahaniaethau yn unig sydd rhwng y testunau hyn. Os oedd bwlch mewn un testun y gellid ei lenwi trwy ddefnyddio testun arall ni ddefnyddiwyd llythyren neu lythrennau italig yn y fersiwn wedi ei olygu.

Defnyddir llythrennau italig yn y testun gwreiddiol i ddynodi fod gair neu lythyren yn y gwreiddiol yn aneglur. Swyddogaeth y bylchau petryal yw dangos fod rhan o’r testun wedi treulio neu wedi rhwygo neu wedi diflannu yn llwyr. Rhifwyd pob pennill er hwylustod,  er na wnaed hynny yn gyson yn y gwreiddiol. Nid oes cysondeb ychwaith o ran y modd y gosodwyd llinellau pob pennill ar bapur yn y gwreiddiol, ac yn achos nifer o’r baledi gwelir bod patrwm y penillion yn y fersiwn wedi ei olygu yn wahanol i’r patrwm yn y gwreiddiol.

Termau

Gall y gair baled olygu mwy nag un peth. Gall gyfeirio at gerdd unigol a gall gyfeirio hefyd at lyfryn o bedwar neu wyth tudalen a hwnnw yn cynnwys dwy neu dair neu bedair baled unigol. Gall hefyd olygu taflen (Saesneg broadsheet) a honno yn cynnwys un gerdd yn unig. Er bod y gair baled yn cael ei ddefnyddio yn ystod y ddeunawfed ganrif wrth gyfeirio at gerdd unigol, cerdd oedd y term mwyaf cyffredin. Ar y wefan hon defnyddiwyd baled wrth gyfeirio at gerdd unigol a llyfr neu lyfryn baledi wrth gyfeirio at ddeunydd print a fyddai fel arfer yn cynnwys mwy nag un darn unigol. Baledwr yw’r term a ddefnyddir erbyn hyn wrth ddisgrifio awdur baledi, ond prydydd oedd yr ymadrodd a ddefnyddid yn y ddeunawfed ganrif, a’r baledwr oedd y sawl a werthai neu a ddosbarthai’r llyfrau baledi.