Byr hanes o ryw ffregedd a fu rhwng mab a merch wrth ddyfod o’r gwylmabsant, i’w chanu ar Neithiwr ac Echnos. | Darllen
Cerdd neu gwynfan gŵr am ddwy o wyddau a golled o’r cut, ar Heart of Oak. | Darllen
Cerdd newydd neu fynegiad am ŵr a gwraig aeth i Ruthun ag ymenyn i’w werthu ac fel y darfu i rywun trwy genfigen lunio stori fod cloben o garreg mewn un llestr yn lle ymenyn, i’w chanu ar Freuddwyd y Frenhines. | Darllen
Cerdd newydd neu hanes cwmpeini o fedelwyr a gafodd gamdriniad ar fwyd, hyn a barodd i’w cyrff fod mewn anesmwythdra mawr, yr hwn a genir ar Green Windsor. | Darllen
Cerdd neu hanes y cigydd anllad yr hwn aeth ar wraig ei gymydog tra fu’r bobl yn yr eglwys, i’w chanu ar Green Windsor. | Darllen
Cerdd newydd, neu hanes gŵr ifanc a aeth i garu, ac i aros i’r bobl fynd i gysgu aeth i’r berllan, ac i frig pren afalau, ac oddi yno gwelodd un arall yn myned ar uchaf ei gariad dan y pren, yr hon a genir ar Green Windsor. | Darllen
Cerdd newydd neu hanes tair merch ifanc, un wedi codi i garu a’r ddwy arall a dynnodd eu crysau i gysgu â llanc a ddaeth atynt heb iddynt wybod nad y drydedd ferch ydoedd, ac a dynnodd ei grys ac fe guddiodd y tri dan y gwely, a phan ddaeth i’r gwely fe fu yno ddychryndod mawr, yr hon a genir ar Neithiwr ac Echnos. | Darllen
Dechrau cerdd o hanes gŵr a aeth i werthu moch, i’w chanu ar Green Windsor neu Lef Caer-wynt. | Darllen
Hanes tosturus pedair gwraig wrth wlana a feddwodd ar frandi, i’w chanu ar Glan Medd-dod Mwyn. | Darllen