Gallwch ddarllen testun o’r anterliwt wedi ei golygu gan A Cynfael Lake.  | Darllen

Trafodir yr anterliwt yn y ddwy ysgrif hyn: ‘Anterliwt Y Brenin Dafydd’, Y Traethodydd 162 (2007), 89–102; hefyd ‘Alltudiaeth Siôn Cadwaladr’, Llên Cymru 32 (2009), 148–60.

Argraffwyd yr anterliwt hon yng Nghaer gan William Read a Thomas Huxley. Yn 1765 y dechreuodd y ddau gydweithio ac y mae’n bosibl mai yn gynnar yng nghyfnod eu partneriaeth yr ymddangosodd y gwaith.

Y teitl ar yr wynebddalen yw:

ENTERLUT, / Neu Ddanghosiad o’r Modd y darfu i’r / BRENHIN DAFYDD / ODINEBU EFO / GWRAIG URIAS / AT HYN Y CHWANEGIR / DAMEG NATHAN, / Yr hon sydd yn argyhoeddi DAFYDD, ag ynte / heb ei ddeuall, yn ei farnu ei hun yn euog. / A hyn sydd Siampl eglur i Bobl yr Oes bresennol, / sef, y rhai sydd arferol o ddilyn y cyfriw Bechod. / GIDAG CHYDIG O / DDIGRIFWCH ; / Neu’n bennaf i oleu fynegu, pa fodd y mae Cy- / bydd-dod, Oferedd, ag Anlladrwydd, yn cael / ei gynal yn y Bywyd ymma. / O Waith Hugh Jones, a John Cadwaladr. / CAERLLEON: / Argraphwyd gan W. READ a T. HUXLEY, yn / agos i’r Eastgate, neu Borth y Dwyrain, ag a / werthir gan H. JONES, [Pris 6d.].

Nodir mai Huw Jones a werthai’r anterliwt ond iddi gael ei llunio gan Huw a Siôn Cadwaladr ar y cyd. Y mae’r ffaith mai cywaith sydd yma yn ychwanegu at apêl y testun am nad oes enghraifft arall hysbys o anterliwt sy’n ffrwyth cydweithio. Ar ddechrau’r chwarae esbonnir bod Huw a Siôn wedi encilio i dafarn gwraig o’r enw Ros yn Nhŷ’n y Llan ac wedi llunio’r anterliwt yn y fan honno:

Yna medde hithe Gwenno,
“Fe ddarfu i’r ddau gytuno;
Mi ’gweles yn cerdded o bob man
I’r Tŷ Isa’ yn Llan i’w llunio”.

Ond ebr rhyw wreigan dene,
“Roedd Ros yn wirion yn hynny o orie
Na fuase yn gyrru’r ddau lo ddi-les
Tan roi ambell dres o’i dryse”.

Ni wyddys sut yn union y trefnwyd y gorchwyl, ond hysbysir y gynulleidfa ar ddau achlysur pwy a luniodd y rhannau dan sylw. Ar ddechrau’r anterliwt clywir Cecryn y Ffŵl yn olrhain ei achau ar gân, a hynny mewn dull dychanol a diraddiol sy’n wrthbwynt i gywair syberw a dyrchafedig y traddodiad mawl. Cyn cychwyn arni dywed Cecryn:

Yr hawddgar lân ferchede,
Rwy’n ŵr bonheddig, finne;
Fe fu Siôn y Prydydd yn ŵr mor fwyn
Ag uchel ddwyn fy iache.

Disgwylid i’r Ffŵl ganu cân i gynghori’r merched, a sicrhawyd na fyddai cynulleidfa Y Brenin Dafydd yn cael ei siomi. Rhagflaenir y gân gan bennill sy’n esbonio mai Huw a luniodd y cyngor:

Mae yn gyngor pur gyfarwydd
Os coeliwch chwi air Huw’r prydydd,
Ond ni wiw dwad ato i ddweud eich cwyn
Ar ôl bod yn y llwyn yn llonydd.

Ar dro yn yr anterliwt byddai gwraig y cybydd yn clafychu ac yn marw a gallai hynny arwain at ymdrechion y cybydd i ddod o hyd i wraig newydd. Yn Y Brenin Dafydd gwelir dwy olygfa nid annhebyg. Yn yr olygfa gyntaf mae Gwenhwyfar, gwraig y cybydd, yn clafychu ac yn dechrau meddwl am ei diwedd ond caiff ail wynt o rywle – digon i’w galluogi i ymosod ar ei gŵr a dechrau ei leinio! Yn fuan wedyn, mewn golygfa arall, fe’i gwelir yn clafychu unwaith yn rhagor — ac yn marw yn go iawn y tro hwn. Diau mai’r cydweithio sy’n esbonio’r un gwendid amlwg hwn yn adeiladwaith yr anterliwt. Dethlir marwolaeth Gwenhwyfar trwy ddawnsio a thrwy ddatgan ei marwnad ar gân.

Gorchwyl anodd yw ceisio penderfynu pa bryd yn union y lluniwyd yr anterliwt. Yn achos Protestant a Neilltuwr Huw Jones yr oedd cryn fwlch rhwng llunio’r anterliwt a’i hargraffu, ac os argraffwyd Y Brenin Dafydd tua 1765 (pan ddechreuodd y cydweithio rhwng William Read a Thomas Huxley) nid yw’n dilyn mai dyna pa bryd y lluniwyd hi. Gwyddys fod Siôn Cadwaladr wedi ei garcharu, ac yna wedi ei gosbi trwy ei alltudio i Bensylfania am gyfnod o saith mlynedd. Ymddengys ei fod yng ngharchar Dolgellau ym mis Ebrill 1759 yn wynebu ei dynged, a thebyg iddo fod dan glo am beth amser ynghynt. Erbyn 1766 yr oedd yn ôl yng Nghymru yn fyw os nad yn iach—sonia un o’i gyfoeswyr am y creithiau a oedd yn anharddu ei wyneb, a thebyg eu bod yn tystio i’r caledi a brofodd yn ystod y ddwy fordaith ac yn ystod cyfnod ei gaethiwed. Yr oedd Siôn wedi llunio’r anterliwt ‘Gaulove’ cyn ei alltudiaeth, a dyfelir bod y cywaith dan sylw hefyd wedi ei lunio cyn iddo adael Cymru. Crybwylla Siôn ei helyntion yn Pensylfania yn yr anterliwt ‘Einion a Gwenllian’ a luniodd wedi iddo ddychwelyd i Gymru. Nid oes sôn am yr alltudiaeth yn Y Brenin Dafydd ac awgryma hynny ei bod yn rhagflaenu’r bennod ingol hon yn ei hanes. At hyn, ymddengys fod Siôn newydd briodi pan luniwyd Y Brenin Dafydd ac y mae hyn eto yn ategu’r awgrym mai cyn yr alltudiaeth y cyfansoddwyd hi. Mewn cerdd a luniodd cyn ei alltudio crybwylla Siôn ei wraig a’i ddau fab ac enfyn ei ddymuniadau gorau atynt.

Os cywir y drefn amser a amlinellir, dyma gynnig cyntaf Huw ar lunio anterliwt. Ar ol iddo lunio Y Brenin Dafydd gyda chymorth Siôn Cadwaladr y lluniodd ‘Pandosto’ (tua 1760) a  Hanes y Capten Ffactor. Stori serch yw’r olaf, fel y storïau a adroddir yn Histori’r Geiniogwerth Synnwyr a ‘Pandosto’, ond gwelir mai at stori o’r Hen Destament y troes y ddau awdur wrth lunio Y Brenin Dafydd. Fodd bynnag, y mae i serch a ffyddlondeb a theyrngarwch, themâu amlwg yn anterliwtiau diweddarach Huw Jones, le canolog y tro hwn hefyd am fod cyfran helaeth o’r chwarae yn adrodd hanes godineb Dafydd a Bethseba, a’r modd y trefnodd y ddau fod Urias, gŵr ffyddlon Bathseba a gwas ffyddlon y Brenin Dafydd, yn cael ei ladd fel na ddaw canlyniadau’r godineb i’r amlwg. Tystia geiriad a manylion sawl pennill fod y ddau awdur yn gyfarwydd â’r stori Feiblaidd, a gellid dyfalu y byddai sawl aelod o’r gynulleidfa yn ymwybodol o’r tebygrwydd. Nodir ffynhonnell y deunydd yn glir ar ddechrau’r chwarae:

O ail lyfr Samuel mae’n dawel yn dwad
Ei thestun ar gynnydd, os rhowch i ni gennad;
Darllenwch yn ufudd ar ôl darfod y nawfed
Mewn moddion diddigfawr nes darffo’r deuddegfed.

Cymharer yr adnod yn II Samuel 10.2 a’r pennill cyfatebol yn yr anterliwt:

Yna y dywedodd Dafydd, Mi a wnaf garedigrwydd â Hanun mab Nahas, megis y gwnaeth ei dad ef garedigrwydd â mi.

Gwnaeth Nahas yn ddiame
Garedigrwydd mwyn i minne;
Peth addas iawn i bob rhyw ddyn
Yw talu’r nechwyn adre’.