Gallwch ddarllen golygiad o’r anterliwt yn A Cynfael Lake, Anterliwtiau Huw Jones o Langwm (Caernarfon, 2000), tt. 198–286. Ceir trafodaeth ar yr anterliwt yn ‘Y Methodistiaid trwy lygaid dau o anterliwtwyr y ddeunawfed ganrif’, Y Traethodydd 155 (2000), 25–42.

Y mae anterliwtiau eraill Huw Jones yn seiliedig ar storïau serch, a ffyddlondeb a theyrngarwch yn themâu amlwg ynddynt. Y mae Protestant a Neilltuwr ar y llaw arall yn wahanol iawn am ei bod yn seiliedig ar fater cyfoes, sef  y newidiadau crefyddol pellgyrhaeddol eu heffaith a ddigwyddodd yn ystod y ddeunawfed ganrif. Disgrifir y newidiadau hyn bellach wrth yr enw  ‘Y Diwygiad Methodistaidd’. Yn annisgwyl, prin yw’r cyfeiriadau at y Methodistiaid ym maledi ac yn anterliwtiau Huw Jones. Sonnir am y mudiad yn gynnil yn yr anterliwt Hanes y Capten Ffactor, ond a barnu wrth y baledi yr oedd Ffrainc a Sbaen a’r Pab yn fwy o fygythiad yng ngolwg Huw Jones nag arweinwyr y mudiad newydd a’u canlynwyr. Ar y llaw arall, ceir yn anterliwtiau Twm o’r Nant sawl cyfeiriad at y Methodistiaid, a’r rheini at ei gilydd yn ddilornus a dychanol. Eto, y mae’n amlwg y gwyddai Huw Jones am y newidiadau a oedd ar droed am ei fod yn cyfeirio yn Protestant a Neilltuwr at George Whitfield a Howel Harris, ac yn crybwyll y gymuned grefyddol a sefydlodd yr olaf yn Nhrefeca.

Yn 1782 yr argraffwyd Protestant a Neilltuwr ond ymddengys mai tua 1769 y cyfansoddwyd hi. Enwir anterliwt Elis y Cowper, Gras a Natur, yng nghwrs y chwarae, a gwyddys mai yn 1769 yr ymddangosodd honno mewn print. Gellid tybio bod y ddwy anterliwt wedi eu llunio yn gyfamserol.

Er mai ‘Neilltuwr’ a enwir yn nheitl yr anterliwt dengys y cyfeiriadau at George Whitfield a Howel Harris mai’r Methodistiaid sydd dan sylw. Yng nghwrs y chwarae olrheinir cyfres o ddadleuon rhwng y Protestant, sy’n cynrychioli’r Eglwys Sefydledig,  a’r Neilltuwr, ac
erbyn y diwedd y mae’r Neilltuwr yn cyfaddef iddo gyfeiliorni trwy gefnu ar ddysgeidiaeth yr Eglwys, a chaiff ei groesawu yn ôl i’r gorlan. Wrth reswm, ni allai Huw Jones ganiatáu i’r Protestant ladd yn ddidrugaredd ar y Neilltuwr—a disgwyl iddo gydnabod ei fai ac arddel dysgeidiaeth Eglwys Loegr drachefn. Ond y mae yma yn bendifaddau ymosod ar y Neilltuwr a’r mudiad a gynrychiolai, ac yn hynny o beth perthyn yr anterliwt hon i’r torreth o weithiau gwrth-Fethodistaidd a luniwyd yng nghwrs y ganrif—yn gerddi caeth a rhydd, yn bamffledi a llyfrau a llythyrau. Gwyddai Huw Jones am lawer ohonynt. Mewn un olygfa adleisir rhan o anterliwt William Roberts o Lannor yn Llŷn, Ffrewyll y Methodistiaid, sydd, fel yr awgryma ei henw, yn ymosodiad mileinig a didrugaredd ar y mudiad. Rhoes Huw Jones le i gyfres o englynion deifiol Rhys Jones o’r Blaenau, ‘Fflangell Ysgorpionog i’r Methodistiaid’, yn ei ddetholiad Dewisol Ganiadau yr Oes Hon (1759), a thâl nodi i Siôn Cadwaladr, cyfaill Huw Jones a chyd-awdur anterliwt Y Brenin Dafydd, lunio baled gyda’r bwriad o bardduo’r mudiad.

Er bod tebygrwydd ar sawl gwastad rhwng y gweithiau hyn nid yw’r beirniadu a’r ymosod mor llawdrwm yn Protestant a Neilltuwr, a gall fod yr anterliwt yn tystio i’r newid yn y farn gyhoeddus erbyn diwedd chwedegau’r ddeunawfed ganrif.