Hanes marsiant a’i wraig a adroddir yn yr anterliwt Histori’r Geiniogwerth Synnwyr. Cefna’r marsiant ar ei wraig ar ôl cwrdd â phutain a hi bellach yw canolbwynt ei fywyd. Ond rhaid iddo ei gadael hi, a’i wraig, er mwyn mynd ar fodaith i’r dwyrain. Cyn iddo
hwylio ymaith caiff geiniog gan ei wraig briod sy’n ei annog i brynu gwerth ceiniog o synnwyr. Cyferfydd â henwr a chyfarwydda hwnnw ef i ddychwelyd yn llwm ac yn garpiog at y ddwy wraig. Ni chaiff groeso o gwbl gan y butain ond fe’i derbynnir yn llawen gan ei wraig briod, a sylweddola iddo ymddwyn yn annoeth wrth ei hanwybyddu. Dychwel at y butain drachefn yn wych ei wedd ac y mae hi yn barod iawn i’w groesawu y tro hwn, ond y mae’r marsiant wedi dysgu ei wers erbyn hyn. Y mae’r stori hon, fel Hanes y Capten Ffactor a  ‘Pandosto’ yn ymwneud â chariad a ffyddlondeb a theyrngarwch, a hawdd gweld y byddai Huw Jones wedi ei ddenu ati.

Bu’r deunydd hwn eto yn cylchredeg yn helaeth yn ystod y 18g. Fe’i cyhoeddwyd ar sawl achlysur yn ystod ail hanner y ganrif o dan y teitl byr A choice penny-worth of wit a’r teitl hwy A choice penny-worth of wit; or, a clear distinction between a virtuous wife and a wanton harlot. Cynnwys y fersiwn Saesneg 65 pennill a phedair llinell ym mhob un, yr ail a’r bedwaredd yn odli. Datgenir yn y trydydd pennill mai gŵr o’r enw William Lane a luniodd y gerdd (‘As in this book you may behold, / Set forth by Mr William Lane’). Y mae’r stori fel yr adroddir hi yn anterliwt Huw yn cyfateb i’r gerdd er bod rhai mân wahaniaethau rhyngddynt. Dyma’r manylion yn y gerdd Saesneg nad ailadroddir mohonynt yn yr anterliwt: mae gan y marsiant a’i wraig blentyn, sef merch; yn ogystal â’r geiniog a roddir i’r marsiant gan ei wraig briod caiff ddegpunt gan y butain i’w fuddsoddi, ac adduneda’r marsiant y bydd ei menter yn talu ar ei ganfed. Wrth wledda mewn tafarn yng nghwmni ei gyd-forwyr, a hwythau yn dathlu eu llwyddiant cyn dechrau ar eu taith yn ôl i Brydain, y deuir ar draws yr henwr sy’n cynnig y cyngor, ac ychwanega y dylai’r marsiant ddweud wrth y ddwy wraig yn eu tro ei fod mewn helbul am ei fod wedi lladd un o’i weision. Ar ôl dychwelyd at y butain caiff rybudd y bydd hi’n galw’r swyddogion os na fydd yn myned ymaith ar unwaith. Dychwela’r marsiant at y butain yn wych ei wedd, ond yng nghmni pedwar gwas ar ddeg, a hwythau oll wedi eu trwsio yn wych. Cyhudda’r marsiant y butain o wario ei eiddo ar ŵr arall, ond gwada hithau’r cyhuddiad a chyrcha’r trysorau a roes iddi cyn iddo yntau eu hailfeddiannu i gyd.

Ond gallai Huw fod wedi gweld yr hanes mewn testun Cymraeg, ‘Cerdd y Geiniogwerth Synnwyr’. Fe’i diogelwyd mewn llawysgrifau o’r 17g, a’i chopïo gan Richard Morris yn 1718 pan oedd oddeutu pymtheg oed yn llawysgrif BL Add 14992, gw. T H Parry-Williams, Llawysgrif Richard Morris o Gerddi, &c. (Caerdydd, 1931), 161–7; hefyd Casgliad o Hanes-Gerddi Cymraeg (Caerdydd, 1903), 16–22.  Adroddir yr hanes yn y gerdd Gymraeg mewn dilyniant o 33 pennill, ac fe’i priodolir i Huw ab Ieuan ap Robert o Ddolgellau. Y mae’r cerddi Saesneg a Chymraeg yn debyg iawn i’w gilydd, ac yn ategu’r manylion a nodwyd uchod nas ceir yn yr anterliwt, ac eithrio’r ffaith nad oes sôn am ferch y marsiant yn y testun Cymraeg, ac mai dau was yn hytrach na phedwar ar ddeg sy’n gwmni i’r marsiant wrth iddo ddychwelyd at y butain.

Collwyd dechrau’r anterliwt a’i diwedd ond dyfelir mai oddeutu 1763–5 y lluniwyd hi.

Dyma’r manylion a roddwyd ar yr wynebddalen:

Historir Geiniogwerth Synnwyr / Ar Ddull / ENTER LUTE. / Neu hanes Marchiant mawr yn / Lloeger a hoffodd Butain o flaen ei / wraig; ag fel y Cafodd Droeadig- / aith Drwy ryfeddol Raglunniaeth / Duw. At yr hynn y chwanegir, y / chydig o gwrs y Byd Presennol, ynghylch mesur y tiroedd, A Dyblu / Rhenti yn amryw fannau; Gyda / chydig ddiddanwch Perthynasol ir / fath waith. / O Gyfansoddiad Hugh Jones Llangwn. / Pris Chwech einiog. / Argraphwyd yn NGWRECSAM gan R. Marsh / Gwerthwr Llyfrau.

Gallwch ddarllen golygiad o’r anterliwt hon yn A Cynfael Lake gol., Anterliwtiau Huw Jones o Langwm (Caernarfon, 2000), tt. 140–97, a gweler hefyd y drydedd adran yn Huw Jones o Langwm (Caernarfon, 2009).