Gallwch ddarllen golygiad o’r anterliwt hon yn A Cynfael Lake gol., Anterliwtiau Huw Jones o Langwm (Caernarfon, 2000), tt. 56–139, a gweler hefyd y drydedd adran yn Huw Jones o Langwm (Caernarfon, 2009). Trafodir yr anterliwt fel cyfrwng, a’r testun hwn yn benodol, yn ysgrif Dafydd Glyn Jones, ‘The Interludes’, yn Branwen Jarvis ed., A Guide to Welsh Literature c. 1700–1800 (Cardiff, 2000), 210–55.

Ni ddiogelwyd ymateb cyfoedion Huw Jones i’w anterliwtiau, ond yn achos Hanes y Capten Ffactor o leiaf fe ellir dweud fod cyfeiriadau cyfoes wedi eu diogelu at ymddangosiad y fersiwn print. Tua dechrau’r flwyddyn 1761 dechreuodd Huw feddwl am gyhoeddi blodeugerdd a fyddai’n cynnwys cywyddau ac awdlau gan feirdd caeth ei oes, gwŷr megis Goronwy Owen a Lewis Morris, William Wynn, Llangynhafal, ac Ieuan Fardd. Llwyddodd i fynd â’r maen i’r wal ac argraffwyd y Diddanwch Teuluaidd yn 1763 er mai gwaith beirdd Môn yn unig a gafodd le yn y diwedd rhwng cloriau’r gyfrol. Cyn diwedd 1761 yr oedd Huw wedi teithio i Lundain ac wedi cwrdd â Richard Morris, brawd Lewis, ac yr oedd y cynigion wedi eu hargraffu. Ymwelodd â Llundain eto y flwyddyn ganlynol; yr oedd yno ym mis Mawrth a thrachefn ym mis Hydref. Daliodd ar y cyfle a threfnodd fod William Roberts, argraffwr Diddanwch Teuluaidd, yn argraffu ei anterliwt Hanes y Capten Ffactor yr un pryd. Gwelir y flwyddyn 1762 ar yr wynebddalen, a gellir bod yn sicr fod y gwaith wedi ymddangos erbyn mis Mai am fod Richard Morris yn hysbysu ei frawd, Wiliam, mewn llythyr a luniodd ar 28 Mai ac a anfonwyd i Gaergybi,  ‘Daccw Langwm wedi picio i Gymru i werthu rhyw enterlud a wnaeth ei hun, ac a brintiodd yma’ (ML ii, 486). Ymhen deufis byddai’n ailadrodd yr wybodaeth mewn llythyr a aeth i Geredigion at ei frawd hynaf, Lewis:  ‘Llangwm is to call on you, we know nothing of him at present. He is about Wales selling an Enterlude of his own making, a rhai pethau digon digrif ynddi’ (ML ii, 494). A barnu wrth sylw Richard, testun a luniwyd ar gyfer ei ddarllen a’i werthu oedd hwn, nid un a luniwyd yn unswydd ar gyfer ei berfformio. Awgryma’r ail frawddeg yn y llythyr at Lewis fod Richard wedi gweld y testun a argraffwyd a’i fod wedi ei ddarllen.

Ni wyddys ymhle yn union y bu Huw yn gwerthu’r llyfr, ond nid oedd Lewis wedi ei weld  pan ysgrifennai at ei frawd Richard ar 3 Awst: ‘Ni welais i mo Llangwm-man etto na’r Enterlude’ (ML ii, 497). Nid oedd Wiliam wedi ei weld ychwaith pan ysgrifennai yntau at Richard ar 21 Awst: ‘Dim hanes am Langwm, chware neu warau anterlywt y mae rwy’n tebyg. I don’t like the little Captain fact’ (ML ii, 503). Awgryma’r cyfeiriad at ‘the little Captain fact’ fod Wiliam wedi gweld y testun ac wedi ei ddarllen, ond y mae’n debycach mai Huw Jones ei hun oedd y sawl a ddrwgleiciai Wiliam. Yr oedd Wiliam yn bur amheus o gymhellion Huw a’i eirwiredd. Roedd eisoes wedi rhybuddio ei frawd Lewis naw mis ynghynt: ‘Mae arnaf ofn am Langwm nad un o’r cywiriaid mono’ (ML ii, 410).

Ystyr ‘factor’ yw ‘one who buys and sells for another person; a mercantile agent; a commission merchant’, a hanes gŵr ifanc sy’n gapten llong ac sy’n masnachu ar ran eraill a adroddir yn Hanes y Capten Ffactor. Ond y mae ‘factor’ hefyd yn gyfystyr â ‘chyfryngwr’, ‘one who makes or does (anything); a doer; maker, performer, perpetrator; an author of a literary work’. Trwy lafur ac ysgogiad Huw Jones ei hun y cyhoeddwyd gweithiau Goronwy ac eraill yn y 18g, ac y mae’r disgrifiad ‘little Capt fact’ yn dra phwrpasol o’r herwydd, er nad talu teyrnged a chydnabod cymwynasgarwch oedd bwriad Wiliam Morris wrth lunio ei sylw.

Y mae’n bosibl mai yn ystod un o’i gyfnodau yn Llundain y lluniodd Huw Jones yr anterliwt. Y mae hefyd yn bosibl mai yn Llundain y gwelodd y deunydd y seiliwyd yr anterliwt arno. Bu’r testun a adwaenid wrth yr enw ‘The Factor Garland’, ‘The Turkey Factor’ a ‘The Turkey Factor’s Garland’ yn bur boblogaidd yn ystod ail hanner y 18g ac fe’i hargraffwyd ar saith achlysur o leiaf. Argraffwyd dau fersiwn yng Nghaerwrangon, y naill tua 1765 a’r llall tua 1775, ac un arall yn Lerpwl yn 1794. Tybed ai’r copi a argraffwyd tua 1760 ac a werthid yn Llundain a welodd Huw Jones? Y mae’n rhaid cyfaddef mai testun digon anneniadol oedd hwn, a’r cyfan wedi ei gywasgu ar un ddalen tra bod dau argraffiad diweddarach Caerwrangon mewn print brasach a glanach ac yn llenwi wyth tudalen mewn llyfryn bychan, fel y mae argraffiad Lerpwl 1749, unwaith eto ar ffurf llyfryn 8 tudalen, ond yn cynnwys torlun (digon amrwd) hefyd.

Adroddir yr hanes yn y fersiwn Saesneg mewn mydr ac odl mewn dilyniant o 58 pennill, ac mewn ambell destun rhennir y cyfan yn bedair adran. Teitl moel yn unig sydd ar y testun y bernir i Huw Jones ei weld, sef The Turkey Factor. In Four Parts, tra cynigir disgrifiadau llawnach mewn llyfrau diweddarach:

The Factor’s Garland, Containing His Voyage to Turkey; Marriage with a King’s           Daughter; and many other Things worthy of Notice. ([1775])

The Factor’s Garland, in Four Parts. Being an Account, how a young Man, after           having rioted away his Estate, became Factor to several Merchants in London; how he  saw the Corpse of a dead Christian lying on the Ground, in Turkey, and gave Fifty         Pounds for its Burial; With many curious and remarkable Accidents that befel him,       together with his wonderful Escape from perishing in the Ocean, and safe Return to his desired Port. (1776)

Fel hyn y disgrifir y cynnwys ar wynebddalen anterliwt Huw Jones:

HANES / Y / CAPT. FACTOR. / SEF EI / DAITH i SMYRNA a VENIS. / A’R          MODD / Y Dioddefodd lawer o ADFYD ar / FOR a THIR; / A / Danghosiad o’i           Weithredoedd da, / A’r modd y doeth ef i Ddiwedd daionus / ar ol hynny. / Gyda ychydig o GWRS Y BYD, er Rhybudd i / Bawb, na roddon mo’r gormod o’u serch ar / OLUD BYDOL. / A Rhyw faint o / DDIDDANWCH pleserus, a pherthynasol / i’r fath WAITH: / Ar Ddull ENTERLUT / O Waith H. JONES o LANGWM / Argraphwyd yn LLUNDAIN gan W. ROBERTS / ac a werthir gan yr AWDWR. 1762.

Fel y nodwyd, rhannwyd y gerdd Saesneg yn bedair adran mewn ambell destun. Yn y rhan gyntaf (penillion 1–10) cyflwynir gŵr ifanc sydd wedi afradu ei eiddo ond fe’i cyflogir yn gapten, neu yn ffactor, gan dri marsiant o Lundain, a hwylia i Dwrci ar eu rhan. Erbyn y trydydd pennill y mae wedi cyrraedd y wlad honno, a disgrifir dau beth a wnaeth, sef talu hanner canpunt i gladdu celain Cristion a thalu canpunt i ryddhau morwyn ifanc a oedd ar fin cael ei dienyddio am daro ei meistres. Yn yr ail ran (penillion 11–25) dychwela’r Capten Ffactor a’r ferch ifanc i Lundain a chaiff hi fod yn ‘howsgiper’ iddo. Cyn hir rhaid iddo ymgymryd â siwrnai arall. Pan glyw’r ferch am y daith dywed wrtho am wisgo dillad arbennig ac addurna hi ei wasgod. Gŵel y tywysog y wasgod a sylweddola mai ei ferch ei hun a’i gwnïodd. Dywed wrth y Capten Ffactor am ddychwelyd i Lundain i gyrchu ei ferch ac adduneda hefyd y caiff ei phriodi. Ac ymhellach: ‘And if you shouldn’t live to bring her to me, / The man who brings her home his bride she shall be.’ Erbyn y drydedd ran (penillion 26–36) y mae’r Capten Ffactor yn ôl yn Llundain ac yn adrodd hanes a chanlyniad ei daith wrth ferch y tywysog. Y mae hi’n barod iawn i’w briodi. Cychwynnant ar eu taith ond teflir y darpar ŵr i’r môr gan gapten eu llestr sy’n ymwybodol o addewid y tywysog ac sy’n gobeithio cael ei ferch yn wraig iddo ef ei hun. Pan gyrhaeddant ben eu taith caiff y tywysog ei atgoffa am ei addewid ond myn ei ferch alaru am ddeugain niwrnod cyn priodi’r sawl a’i dygodd yn ôl i wlad ei geni. Ond nid oedd y Capten Ffactor wedi boddi; yn ffodus yr oedd ynys gerllaw a llwyddasai i nofio yno. Dechreua’r rhan olaf (penillion 34–58) ar yr ynys yng nghwmni’r Capten. Daw henwr heibio mewn canŵ ac addo ei achub ond iddo gael ei fab cyntafanedig ymhen deg mis ar hugain. Nid oes fawr o ddewis gan y Capten Ffactor. Hwyliant yn eu blaenau nes cyrraedd pen eu taith, y mae’r Capten Convoy yn gwneud amdano ei hun pan ddaw ei dwyll i’r amlwg, priodir y Capten Ffactor a merch y tywysog a genir mab a merch iddynt. Ymhen deg mis ar hugain  daw’r cychwr i hawlio ei wobr a rhaid cywiro’r addewid. Ar ôl cyflwyno’r bachgen esbonia’r cychwr mai ef yw’r gelain a gladdwyd yn Nhwrci ac adferir y plentyn i’w rieni diolchgar.

Y mae anterliwt Huw Jones yn dilyn y gerdd yn ffyddlon. Un manylyn yn unig sy’n wahanol; ni sonnir am eni bachgen a merch yn yr anterliwt ac o ganlyniad y mae’r aberth yn fwy am fod y Capten a’i wraig yn ildio eu hunig blentyn. Ymddengys fod sawl pennill yn gyfieithiad o’r gwreiddiol. Dyma’r rhan pan ddychwel y Capten i Lundain ar ôl cwrdd â’r tywysog:

Perhaps, noble lady, you will not agree
To marry a poor man, especially me.
Sir were you a beggar I would be your wife,
Because, when just dying, you saved my life.

I ne’er shall forget that great token of love,
Of all men living I prize you above.

Fe alle i chwi, sydd lân d’wysoges,
Dybio fod yn ormod gormes
Ymrwymo â myfi sydd lanc tylawd,
Nad ydyw fo ond gwawd, fun gynnes.

Nid oes undyn ar y ddaear
A gym’rwn i o’ch blaen chwi’n gymar;
Ni wnaeth un, ac ni wnaiff eto,
Mo’r peth a wnaethoch at fy safio.

Ond y mae gwahaniaethau trawiadol hefyd. Y mae’r anterliwt yn llawer manylach na’r gerdd. Nid enwir merch y tywysog na’i chartref yn y gerdd Saesneg tra hysbysir y gynulleidfa gan Huw Jones mai Prudensia oedd ei henw ac mai tywysog Fenis oedd ei thad. I Dwrci yr hwylia’r Capten ar ei fordaith gyntaf ond i Smyrna yn benodol, dinas Izmir erbyn heddiw, i’r de o Istanbul, yn yr anterliwt. A phan gyrhaeddant daw swyddogion y ddinas i gwrdd â hwy, sef y Consul a’r Supersul:

Dacw’r gwŷr yn dwad
Tan lun yr hanner lleuad,
A’u cylars duon uwch eu stôr,—
Dyna gôt-armôr y Tyrciad.

Un o’r pethau mwyaf trawiadol yw’r manylion am y daith i Fenis. Disgrifir yn fanwl y cwrs y bydd y Capten Ffactor yn ei ddilyn, a bydd y cwrs hwnnw yn mynd ag ef i gyfeiriad:

Marseilles, Toulon a Sardinia,
Heibio Sisili a Chalabria,
Trwy’r Gylff y Fenis a’r Môr ’Driatica,
Wrth Navigal Art mae pen ein gyrfa.

Awgryma’r manylder, ynghyd â’r ymadrodd Saesneg ‘Navigal Art’ fod gan Huw Jones ffynhonnell arall, yn ogystal â’r fersiwn mydryddol. Ni lwyddwyd eto i daro ar y testun hwnnw. Geill mai testun rhyddiaith oedd cynsail y manylion hyn nad ydynt i’w gweld yn y faled Saesneg.

Caniatâ’r manylion hyn i Huw Jones gyflwyno stori serch y mae teryngarwch a ffyddlondeb yn themâu amlwg ynddynt, megis yn yr anterliwtiau eraill sydd ar glawr, Y Brenin Dafydd, ‘Pandosto’, a Histori’r Geiniogwerth Synnwyr.