Cerdd a wnaed tros ferch ifanc a gawsai ei gwaredu rhag twyll y cythraul, i’w chanu ar Ddydd Llun y Bore. | Darllen

Cerdd ar Gwêl yr Adeilad yn dangos fel y darostyngwyd pob rhyw radd o ddynion i’w hangau o’r dydd y pechodd Adda hyd y dydd heddiw. | Darllen

Cerdd i’w chanu ar Charity Meistres. Rhybudd i bechaduriaid feddwl am awr angau, gan ystyried mor frau a darfodedig yw oes dyn. | Darllen

Cerdd neu gyngor i bawb i ymwrthod â balchder a meddwl am henaint ac awr angau, i’w chanu ar Gwêl yr Adeilad. | Darllen

Cerdd newydd a wnaed yn yr amser helbulus sydd yn awr uwch ein pennau &c. i’w chanu ar Let Mary Live Long. | Darllen

Cerdd newydd i rybuddio pawb i feddwl am eu diwedd oherwydd bod ein hamser mor ansicr yn y byd hwn. | Darllen

Cerdd newydd neu fawr ddiolchgarwch gwraig i Dduw am wellhad, gwedi bod yn hir orwedd dan glefyd a chystudd, yr hon a genir ar Elusenni Meistres. | Darllen

Cerdd newydd neu gyngor i bechaduriaid edifarhau rhag ofn dyfod ofnadwy farn a cherydd y goruchaf Dduw arnynt, fel y digwyddodd ar amryw bobl yn yr oesoedd gynt, i’w chanu ar Ffilena. | Darllen

Cerdd newydd sydd yn adrodd mor ansicr yw ein hamser gydag ystyriaeth am fyr rybudd neu farwolaeth Syr Watkin Williams Wynn. | Darllen

Cerdd newydd ynghylch diwedd amser a dechrau tragwyddoldeb, ac mor ofnadwy yw marwolaeth y pechadur, gyda byr grybwylliad am y farn ddiwethaf, yr hon a genir ar Gwêl yr Adeilad. | Darllen

Cerdd newydd yn erbyn y rhai sydd yn rhyfygu dwedyd pa pethau a fydd canys dirgelwch y gorchuaf Dduw, gyda rhybydd i bawb feddwl am Dduw tra byddo eu byd yn esmwyth rhag na ddichon i ni mewn adfyd a blinder gael mo’n gwrando, a chofio am y dyddiau gynt a’r blynyddoedd y cafodd llawer ddrygfyd, a bod yn barod bob amser cyn dyfod o’r dyddiau blin a nesáu o’r blynyddoedd yn y rhai y dywedir nad oes diddanwch ynddynt, i’w chanu ar Charity Meistres. | Darllen

Cerdd newydd, hanes buchedd y rhan fwyaf o ddynion sydd heb feddwl am eu diwedd ond hyderu ar y byd yma, i’w chanu ar Gwêl yr Adeilad. | Darllen

Cerdd ynghylch yr haint ofnadwy sydd ar anifeiliaid gydag ychydig o eglurhad am amryw flinderoedd echryslon a fu ar ddynion ar ôl y cyffelyb haint a fu ar anifeiliaid o’r blaen, sef clefydon, marwolaeth, newyn, cleddau, ar Grimson Felfed. | Darllen

Cerdd yn gosod yn gyhoeddedig hyfrydwch gwlad Canaan a ffrwythau Pren y Bywyd, yr hon a genir ar Grimson Felfed. | Darllen

Clodfori am briodi yn dda, i’w ganu ar Brinses Reiol. | Darllen

Cwyn a chyngor Deifes i’w bum brawd yn gosod allan eglur ddangosiad o feddyliau calonnau yr anhrugarogion, i’w chanu ar Grimson Felfed. | Darllen 

Dechrau cerdd ar Grimson Felfed neu ddwys ystyriaeth ar y pedwerydd gorchymyn, sef ‘Cofia gadw yn sanctedd y dydd Saboth’, gyda rhybudd i bechaduriaid feddwl amled y maent yn torri’r gorchymyn hwn. | Darllen

Dechrau cerdd ar Gwymp y Dail neu rybudd i bawb edifarhau. | Darllen

Dechrau cerdd ar Synselia neu erfyniad gwraig am drugaredd ar ei chlaf wely. | Darllen

Dechrau cerdd neu rybydd i bawb feddwl am ei ddiwedd gyda chrybwylliad am ryw seren hynod sydd yn ymddangos, i’w chanu ar Elusenni Meistres. | Darllen

Dechrau cerdd newydd yn gosod allan aml bechodau ac anwireddau dynion a rhybudd i edifarhau cyn mynd yn rhy hwyr, i’w chanu ar Grimson Felfed. | Darllen

Dechrau cerdd o fawr ddiolchgarwch i Dduw am ostyngiad y farchnad, i’w chanu ar Charity Meistres. | Darllen

Dechrau cerdd o rybudd i Gristnogion edifarhau a gweled bygythion Duw gydag ystyriaeth fyrred yw hoedl dyn, i’w chanu ar Fryniau’r Werddon. | Darllen

Dechrau cerdd yn adrodd cyneddfau’r oes hon gyda rhybudd i bawb wellhau cyn ei ddiwedd, i’w chanu ar Charity Meistres. | Darllen

Dechrau cerdd yn adrodd fel y mae amryw fath o ddynion yn torri’r Saboth, i’w chanu ar Charity Meistres. | Darllen

Dechrau cerdd yn adrodd mor dwyllodrus ydyw calon dyn gyda rhybudd i’r bobl sydd yn sôn am gadw tlawd yn ei blwyf i feddwl i ble yr ânt hwythau pan fônt yn gyrff, pryd na chadw’r plwyf mohonynt, i’w chanu ar Elusenni Meistres. | Darllen

Dechrau cerdd yn erbyn balchder, i’w chanu ar Gwêl yr Adeilad. | Darllen

Dechrau cerdd yn rhoddi eglurhad o’r ddameg sy yn 10 pennod o Luc gyda rhybudd i bawb feddwl am edifarhau mewn pryd, i’w chanu ar Gwymp y Dail. | Darllen

Dechrau cerdd ystyriol ar Gwympiad y Dail. | Darllen

Dyrifau digrifol ar ddull o ymddiddanion rhwng Cristion ac Anghristion ynghylch mynd i’r eglwys ar Gonsêt Gwŷr Dyfi. | Darllen

Dyrifau digrifol sydd yn gosod allan fel y mae ymadroddion dynion wrth ddyfod o’r eglwysydd y Suliau, y rhain sydd yn dangos mai nid o ran gwrando ar y person yn unig y mae neb yn dyfod yno ond er mwyn rhyw negesau bydol eraill. | Darllen

Rhybudd i bechadur. | Darllen

Ychydig o gynghorion i gadw’r Saboth yn ddihalog, y rhain a genir ar fesur Greece and Troy. | Darllen

Ystyriaethau ynghylch diwedd amser neu’r dychrynadwy arwyddion a’r rhyfeddodau a fydd yn y dydd diwethaf, gwedi ei gymeryd allan o amryw fannau o’r Ysgrythurau Sanctaidd, sef y dychryn a fydd i’r annuwiolion weled diben pob peth a mawr orfoledd y cyfiawn yn y nefoedd. | Darllen