Cerdd dosturus fel yr oedd gwraig feichiog yn trafaelio tros fynydd yn sir Faesyfed, a hi  a gyflychodd ar y ffordd, a Gwyddel dall a llanc yn ei dywyso a ddaeth ati, a hi a roes swllt i’r llanc am fynd i nôl gwragedd ati, a’r Gwyddel a ofynnodd i’r llanc beth a gawsai, a’r llanc ar frys aeth ymaith a’r Gwyddel a dynnodd ei gyllell ac a laddodd y wraig. | Darllen

Cerdd neu hanes rhyfeddol fel y crogwyd tri yn yr Amwythig y sesiwn ddiwethaf, sef y tad a’i ddau fab, i’w chanu ar Y Fedle Fawr. | Darllen

Cerdd neu hanes rhyfeddol fel y darfu i fachgen pedair oed syrthio i grochenaid o ddŵr berwedig a cholli ei fywyd, yr hyn a fu ym Mryn-y-llin ym mhlwyf Trawsfynydd, Medi 28, 1759, i’w chanu ar Fryniau’r Werddon. | Darllen

Cerdd newydd neu gwynfan tosturus dwy ddynes sydd i gael eu transportio o gaol Ruthun, i’w chanu ar Gwêl yr Adeilad. | Darllen

Cerdd newydd neu hanes fel y cafodd un Siane Ysmith ei barnu i farwolaeth ar gam ac fel y gwaredodd Duw hi, yr hon a genir ar Fryniau’r Werddon. | Darllen

Cerdd yn rhoddi byr hanes am City Lisbon, yr hon a faluriodd i’r môr o fewn yr ychydig amser, gyda rhybudd i ninnau, onid edifarhawn, y difethir ni oll yr un modd. | Darllen

Dechrau cerdd ar y Fedle Fawr yn rhoddi hanes gwraig a laddodd ei merch yn Linconshire 1743. | Darllen

Dechrau cerdd o hanes un Daniel Phillips o Gornwal yr hwn a laddodd wraig feichiog a geneth bedair oed am ofyn cerdod, a’r modd y gwnaeth ef amdano ei hun, i’w chanu ar Leave Land y Ffordd Fyrraf. | Darllen

Hanes mwrdwr creulon fu yn y deheudir, fel y cafodd pedwar o bobl eu lladd a llosgi’r tŷ a darnau o’u cyrff, ar Gonsêt y Capten Morgan. | Darllen